Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 27 Mehefin 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:53 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone Rhodri Glyn Thomas Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ashok Ahir, Dangos y Cerdyn Coch I Hiliaeth Iwan Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Peter Gomer, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sunil Patel, Dangos y Cerdyn Coch I Hiliaeth Stuart Williams, National Union of Teachers |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch achosion penodol y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
3 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.
Cytunodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon i ddarparu rhagor o ddata ar fodelau rôl mewn ysgolion.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Undeb Cenedlaethol yr Athrawon gyda rhagor o gwestiynau sy’n deillio o’r dystiolaeth.
4 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon -sesiwn dystiolaeth 6
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am lwybrau nofio gan gynnwys astudiaethau achos penodol.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig hwn.
6 Ymchwiliad i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru - y prif faterion
Bu’r Aelodau yn trafod y papur ac awgrymwyd rhai argymhellion posibl. Byddai’r adroddiad drafft yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7 Papurau i’w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
7.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd wedi'r cyfarfod ar 23 Mai 2013
7.2 Llythyr gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon - y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd wedi'r cyfarfod ar 15 Mai 2013
7.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb - Coed Cadw Cymru
7.4 Llythyr gan Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y cyfarfod ar 5 Mehefin 2013
7.5 Llythyr gan Paula Walters, Cyfarwyddwr, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG